Pei cig oen, sbigoglys a ffeta Groegaidd
Pei cig oen, sbigoglys a ffeta Groegaidd
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cofiwch ddadmer eich cig drwy ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Cynheswch ychydig o olew olewydd mewn padell fawr ar wres canolig ac yna ychwanegu’r winwns a’u meddalu am ychydig funudau, cyn ychwanegu’r garlleg, yr oregano a’r mintys a’u ffrio ar wres isel-canolig am 2 funud i ganiatáu i’r winwnsyn feddalu.
Ychwanegwch y darnau o gig oen wedi’i dorri, ac yna ychwanegu digon o flas gyda halen a phupur.
Ychwanegwch y sbigoglys mewn sypiau, gan ganiatáu iddo wywo’n araf. Gorffennwch gyda’r persli ffres a chroen lemon a’u cymysgu’n dda ac yna ei dynnu oddi ar y gwres a’i roi i’r naill ochr.
Rhowch 2 ddalen o does ffilo i mewn i ddysgl sy’n addas ar gyfer y ffwrn, gan ganiatáu i’r ymylon ddisgyn dros yr ochrau. Gan ddefnyddio brwsh toes, brwsiwch o amgylch y gwaelod a’r ochrau gyda menyn wedi toddi. Ailadroddwch y broses ddwywaith, fel bod gennych 6 haen o does i gyd.
Llenwch y cymysgedd cig oen a sbigoglys, ac yna gwasgaru’r ffeta wedi’i friwsioni ar ei ben.
Dewch â’r ochrau i mewn a brwsio top eich toes gyda menyn wedi toddi.
Coginiwch mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw (180°C/160°C Fan) am 45 munud – 1 awr, nes bod y ffeta wedi toddi a’r toes yn euraidd. Gweinwch y pryd blasus hwn gyda salad tomato ffres.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych yn eu bwyta’r tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur. Yn syml, cofiwch ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Pryd blasus a hawdd i'r teulu – pryd o fwyd gwych ar gyfer defnyddio cyw iâr heb ei goginio dros ben o'ch barbeciw.
Mae Sascha yn Hugh Grierson Organic, fferm deuluol yn Swydd Perth, yn dangos i ni sut i roi sbeis i’r briwgig a’r thatws hynny ar Noson Calan Gaeaf.
Mae hwn yn ddewis arall gwych i ginio rhost clasurol, ac mor hawdd: y cyfan sydd angen i chi ei wneud mewn gwirionedd yw torri ychydig o lysiau!
Mae'r blasau gwin cynnes y mae'r cyw iâr wedi'i goginio ynddo yn flasus wedi'i weini â thatws stwnsh cennin hufennog neu datws pob neu gallech hyd yn oed ei weini â chwscws. Gweinwch gyda llysiau tymhorol neu fresych coch wedi’i frwysio.
Manteisiwch i’r eithaf ar fwyd dros ben o bryd o fwyd Nadolig trwy gyfuno twrci wedi'i goginio, saws llugaeron a stwffin yn y bastai Nadoligaidd hon.
Swper un ddysgl cyflym i un sy'n flasus ac yn arbed ar olchi llestri!
Tri syniad gwych ar gyfer topins, i ddefnyddio unrhyw datws wedi’u coginio dros ben sydd gennych.
Tro Albanaidd ar glasur Mecsicanaidd, gallwch chi addasu'r wraps hyn gydag unrhyw beth sydd gennych wrth law, o faip dros ben i domatos ffres.
Pryd cynnes ac egsotig ar gyfer y gaeaf, mae'r tajîn hwn yn naws gwych ar gyfer bwyd dros ben y Nadolig.
Y syniad y tu ôl i'r pryd hwn yw helpu gyda gwastraff bara, reis a gwreiddlysiau a rhywbeth ar gyfer unrhyw un sy’n hiraethu am eu hoff fwyty cyri katsu (dim enwau!).
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.