Paëla Sbaenaidd hawdd
Paëla Sbaenaidd hawdd
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch yr olew olewydd mewn padell ffrio fawr, ychwanegu’r winwnsyn a’i goginio’n ysgafn am 5 munud. Yn y cyfamser socian y saffrwm mewn 2 lwy fwrdd o ddŵr poeth, os ydych chi’n ei ddefnyddio.
Ychwanegwch y pupur a’r garlleg a’i goginio am 3-4 munud.
Ychwanegwch y reis, y gwin, y stoc boeth, y cymysgedd saffrwm a’r halen a phupur tan ei fod yn berwi ac yna ei fudferwi, gan ei droi’n achlysurol nes bod bron y cyfan o’r hylif wedi diflannu.
Ychwanegwch y bwyd môr, y cig dros ben a’r selsig sbeislyd yna ei orchuddio a throi’r gwres i lawr a’i fudferwi am 5 munud, gan dynnu’r caead i ffwrdd bob ychydig funudau i’w droi.
Ychwanegwch y pys a’i goginio am ychydig funudau pellach tan fod yr hylif wedi anweddu cyn ychwanegu blas a’i weini ar unwaith.
Awgrym: Gan fod reis yn gymharol rad, mae’n hawdd dod i arfer â thaflu gormod i’r sosban. Mae eich mwg te safonol yn adnodd defnyddiol ar gyfer mesur reis heb ei goginio. Bydd un cwpan llawn o reis yn bwydo 4 oedolyn a ¼ cwpan yn bwydo 1 oedolyn.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.