Mae llawer o wahanol fathau o letys ar gael, yn cynnwys rhai sydd â dail ystwyth fel letys crwn, a rhai sydd â dail crimp fel letys crensiog.
Sut i'w storio
Sut i storio letys ffres
Storiwch letys o unrhyw fath yn yr oergell yn eu pecynnau gwreiddiol, neu fel arall, mewn bag plastig wedi’i glymu’n llac.
Ni ellir rhewi letys.
Nid yw bwydydd gyda chynnwys dŵr uchel, fel letys a chiwcymbr, yn rhewi’n dda.
Storio letys wedi’i goginio
Storio mewn cynhwysydd aerglos am hyd at 2 ddiwrnod.
Letys – tips gwych
Bwyta’r bwyd cyfan
Gallwch goginio dail allanol letys – rhwygwch nhw a’u defnyddio mewn tro-ffrio neu gallwch eu hychwanegu at gawl.
Bod yn wych gyda bwyd dros ben
Ychwanegwch letys dros ben at gawl, fel cawl pys neu gallwch ei rwygo a’i roi mewn tro-ffrio.
Coginiwch letys dros ben mewn padell neu ar y barbeciw – y darnau wedi crasu sy’n ei wneud yn flasus!
Tips ar gyfer ei brynu
Ystyriwch gyfnewid salad mewn bag am letys cyfan, a fydd yn para’n hirach. Mae dyddiad Defnyddio Erbyn ar fagiau salad am resymau diogelwch, a prin iawn yw’r amser sydd gennych i ddefnyddio’r cynnwys ar ôl eu hagor.
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Letys
Daioni mewn bwyd
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
- Mae’n ffynhonnell o fitamin A, sy’n helpu i amddiffyniad naturiol eich corff yn erbyn salwch a haint (eich system imiwnedd) weithio’n iawn.
- Mae cynnwys dŵr uchel mewn letys felly maen nhw’n helpu i hydradu’r corff.
Stori bwyd
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Letys
Gellir defnyddio letys sydd wedi mynd yn llipa, ac mae'n cael ei drawsnewid yn hudol yn y cawl cyfoethog, soffistigedig hwn.
Gall bron iawn unrhyw beth sy'n agos at ei ddyddiad defnyddio gael ei drawsnewid ar ffurf omled Sbaenaidd. Gallwch gynnwys tatws wedi'u coginio, llysiau wedi'u coginio fel pys, cennin, moron, courgettes, winwns ac ati, y dafell olaf o gig moch a chaws sy'n mynd yn galed o amgylch yr ymylon.
Y tro-ffrio cyflymaf, hawsaf! Browniwch eich briwgig, tro-ffrio'r llysiau a bydd y pryd hwn yn barod mewn llai na 30 munud.