Skip page header and navigation

Kimchi syml

Kimchi syml

Mae'r pryd traddodiadol hwn wedi'i wneud yng Nghorea ers cannoedd o flynyddoedd ac mae'n ffordd anhygoel o wneud i lysiau fynd ymhellach. Gyda'r rysáit symlach hon gallwch chi roi cynnig arni yn eich cartref eich hun.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 8
Amser Paratoi/Coginio: 20 munud
Pryd Coreaidd traddodiadol wedi’i wneud gyda bresych a llysiau eraill

Cynhwysion

1 bresych napa Tsieineaidd
30g o halen o ansawdd da
6 ewin o arlleg
2 lwy de o sinsir wedi'i gratio
2 llwy de o siwgr
2 lwy fwrdd o saws pysgod (dewisol)
Fflochiau pupur coch neu saws tsili
4 shibwns wedi'u deisio
Moronen a radis wedi'u gratio, at eich dant
Yn draddodiadol byddai Kimchi yn cynnwys moron a radis ond beth am arbrofi gyda'r hyn sydd gennych chi yn eich oergell sydd angen ei ddefnyddio?

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Torrwch y gwaelod oddi ar eich bresych ac yna ei dorri’n dalpiau 3cm.

  2. Tylino’r halen i mewn i’r bresych gyda’ch dwylo mewn dysgl fawr tan ei fod yn dechrau mynd yn fwy meddal.

  3. Unwaith y byddwch chi’n teimlo bod y bresych yn ddigon medal mae angen arllwys digon o fresych i’r ddysgl fel ei fod wedi’i foddi’n llwyr.

  4. Pwyswch y bresych gyda sosban a’i adael am awr a hanner.

  5. Rinsiwch y bresych yn drylwyr mewn dŵr oer a’i adael ar yr ochr i ddraenio.

  6. Cymysgwch eich past kimchi gyda’i gilydd trwy gymysgu’r saws pysgod, y sinsir, y garlleg a’r saws tsili neu’r fflochiau a’u cymysgu i bast llyfn. Os na allwch ddod o hyd i fflochiau tsili Corea traddodiadol yna bydd sawsiau poeth eraill fel sriracha yn gweithio hefyd. Gallwch chi ei wneud mor sbeislyd ag y dymunwch.

  7. Rhowch y bresych, y moron, y radis a’r winwns yn y ddysgl a’u cymysgu gyda’r pasta.

  8. Unwaith y bydd popeth wedi’i gymysgu’n drylwyr, paciwch y cymysgedd i jar wedi’i sterileiddio fel ei fod wedi’i gywasgu’n dynn a’i adael tua dau gentimetr o’r top a gwthio’r gymysgedd i lawr tan fod rhywfaint o’r sudd yn ei orchuddio. Dylai eich cymysgedd bob amser gael ei orchuddio â hylif.

  9. Gadewch eich jar ar dymheredd ystafell am tua 5 diwrnod, gan edrych arno bob dydd trwy agor y caead.

  10. Unwaith y bydd wedi eplesu’n iawn cadwch y jar yn yr oergell a’i fwynhau gyda reis, nwdls neu hyd yn oed mewn crempogau. Bydd y blasau’n cryfhau dros amser.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos neu ddysgl wedi'i gorchuddio
Amser
Lle sych oer am 5 diwrnod, oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.