Draenog y môr wedi'i ffrio mewn padell, tatws hufennog, shibwns a tsili
Draenog y môr wedi'i ffrio mewn padell, tatws hufennog, shibwns a tsili
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Pliciwch y tatws a’u torri yn eu hanner, yna eu berwi mewn dŵr hallt tan eu bod yn feddal ( tua 25 munud). Draeniwch y tatws a’u stwnsio, gan ychwanegu tua hanner y menyn a diferyn o hufen, ychydig ar y tro ac yna ychwanegu blas gyda halen a phupur tra rydych yn dal ati i stwnsio’r tatws tan eu bod yn ysgafn ac yn ffluwchog.
Tra bod y tatws yn coginio, rhowch flawd ar ochr y draenog y môr sydd â chroen yn ysgafn ac ychwanegu blas gyda halen a phupur. Cynheswch badell ffrio ac ychwanegu darn o fenyn ac unwaith y bydd wedi toddi yn y badell a dechrau hisian, ychwanegu’r draenog y môr gydag ochr y croen am ei lawr. Coginiwch am 2-3 munud tan yn frown euraidd a throi’r draenog y môr drosodd a’i goginio am 3 munud arall cyn tynnu’r draenog y môr o’r badell a’i gadw’n gynnes.
Ychwanegwch yr olew olewydd, y sudd lemwn, y shibwns a’r tsili i’r badell yr oedd eich pysgodyn ynddi a’i goginio am tua 1 munud, gan ei droi drwy’r amser. Byddwch yn ofalus i beidio â gorboethi’r badell.
I weini, rhowch y tatws stwnsh hufennog ar ganol 4 plât ac yna gosod ffiled draenog y môr ar ben y tatws ac ychwanegu’r tsili a shibwns yn ysgafn o’i gwmpas.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.