Skip page header and navigation

Cacennau pysgod eog

Cacennau pysgod eog

Defnyddiwch eich crystiau i wneud eich briwsion bara eich hun ar gyfer y cacennau pysgod cyflym hyn a fydd yn gwneud defnydd gwych o datws stwnsh sydd dros ben.
Gan Stuart Miller
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Two crispy salmon fishcakes served with a lemon wedge

Cynhwysion

250g o datws stwnsh dros ben
2 ffiled eog neu 1 tun (213g)
75g o friwsion bara cartref
1 wy wedi'i guro
1 lemwn gyda 1 llwy fwrdd o sudd wedi'i wasgu ac 1 llwy fwrdd o groen wedi'i gratio
3 llwy fwrdd o olew blodau’r haul
2 lwy fwrdd o unrhyw berlysiau (mae persli, dil a chennin syfi yn gweithio'n arbennig o dda)
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes - mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal.
1 llwy fwrdd o flawd plaen
1 llwy de o fwstard
Halen a phupur i ychwanegu blas

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cymysgwch y tatws, y mwstard, y sudd lemwn a chroen, y perlysiau a’r halen a phupur.

  2. Ar glawr pobi, ychwanegwch halen a phupur ar yr eog i roi blas a’i grilio am 5-6 munud tan ei fod bron â’i goginio. Gadewch i oeri, tynnu’r croen a’i dorri’n fflochiau mawr.

  3. Cymysgwch yr eog i’r gymysgedd tatws, gan ofalu peidio â gadael i’r fflochiau dorri’n ormodol ac yna ffurfio pedwar pati crwn o’r un maint.

  4. Rhowch y blawd, yr wy wedi’i guro a’r briwsion bara mewn tri phlât ar wahân. Trochwch y pati i mewn i’r blawd (gan gael gwared ag unrhyw flawd sydd dros ben), yna ei drochi yn yr wy ac yna’r briwsion bara tan eu bod wedi’u gorchuddio.

  5. Ffriwch y cacennau pysgod yn yr olew blodau’r haul dros wres canolig am tua 3 munud ar bob ochr tan fod y briwsion bara’n euraidd a’r cacennau pysgod wedi coginio drwyddynt.

  6. Gweinwch y cacennau pysgod gydag ychydig o groen lemwn. Rydym yn awgrymu ffa gwyrdd wedi’u coginio a thomatos bacha r yr ochr.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.