Skip page header and navigation

Bresych

Rhewi? Yes
Tymor Drwy gydol y flwyddyn
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell ardderchog o asid ffolig
Bresychen gron wedi’i thorri yn ei hanner a chwarter

Mae bresych yn rhan o deulu’r brassica, sy’n cynnwys blodfresych a brocoli. Mae llawer o wahanol fathau i ddewis o’u plith, fel coch, gwyn a gwyrdd. Gellir ei rwygo’n fân yn amrwd i wneud colslo, neu ei stemio a’i frwysio fel rhan o’ch cinio. Mae bresych yn cyfrif fel un o’ch 5 y dydd.

Sut i'w storio

Sut i storio bresych ffres

Dylid storio bresych yn yr oergell.

Rhewi bresych

Gellir rhewi bresych mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.

Storio bresych wedi’i goginio

Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Bresych – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi: Blansio bresych wedi’i sleisio am 90 eiliad, wedyn ei roi mewn dŵr rhew cyn ei rewi.

I’w ddadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’u dadrewi ar dymheredd ystafell. Yn ddelfrydol, dylech ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei goginio. Dylech wirio’r canllawiau ar y pecyn ar fwydydd o’r rhewgell bob amser.

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Gallwch rwygo calonnau bresych i mewn i salad, cawl neu stiw.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Gallwch sleisio neu gratio bresych, moron a winwns amrwd sydd dros ben a’u cymysgu mewn mayonnaise i wneud colslo cartref hawdd a sydyn. Gallwch adfywio bresych mewn dŵr rhewllyd os bydd angen hwb arno.

  • Mae bresych yn ffynhonnell wych o asid ffolig sy’n helpu’r corff i ffurfio celloedd coch y gwaed iach.
  • Mae’n llawn fitamin C sy’n helpu i gynnal croen, pibellau gwaed, esgyrn a chartilag iach. 
  • Mae llawer o fitamin E ynddo sy’n helpu i gryfhau amddiffyniad naturiol eich corff yn erbyn salwch a haint.

     

Tips ar gyfer ei brynu

Ystyriwch gyfnewid bresych ffres am fresych wedi’i rewi. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Bresych

Daioni mewn bwyd

Your food is more than its shape, colour and price. Your food has an important role to play to help keep you healthy and with enough energy to live your life how you wish to.

  • Cabbage is an excellent source of folic acid which helps the body form healthy red blood cells.
  • Rich in vitamin C that helps to maintain healthy skin, blood vessels, bones and cartilage. 
  • High in vitamin E that helps to strengthen the body’s natural defence against illness and infection.

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Bresych

Mae'r stiw swmpus hwn yn flasus, yn llenwi ac yn defnyddio'ch llysiau dros ben. Beth sydd ddim i'w hoffi?

a thick stew of mixed soft vegetables including courgette and onion topped with fresh thyme

Brecinio diwastraff blasus, sy’n defnyddio’r daten, pannas, brocoli, shibwns a pherlysiau yn gyfan (coesynnau, crwyn a’r cwbl). Neu gallwch eu cyfnewid am unrhyw lysiau dros ben sydd gennych yn y tŷ!

crispy hash browns circling a dipping sauce

Rysáit gwych y gellir ei gwneud gydag unrhyw lysiau dros ben.

Patis tatws a bresych at blât