Skip page header and navigation

Biryani cig oen dros ben

Biryani cig oen dros ben

Yn llawn gweadedd a blasau cyferbyniol, dyma un o'r ryseitiau hynny y bydd y teulu cyfan yn dwli arno – mae'n gweithio'n dda iawn gyda chyw iâr wedi'i goginio hefyd.
Gan Tesco Real Food
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Powlen o biryani cig oen ar fwrdd yn barod i’w fwyta

Cynhwysion

300g o gig oen dros ben, wedi'i ddeisio
Mae'r rysáit hwn yn gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a dadmer cig yn drylwyr cyn ei goginio.
500g o reis microdon basmati
200g o petit pois wedi'u rhewi
40g o fflochiau almon
1 winwnsyn, wedi'i dorri'n fras
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns neu nionod dodwy yn gweithio'n dda yma.
1 ewin garlleg, wedi'i falu
2cm o sinsir ffres, wedi'i gratio
1 llwy de o sinamon
¼ llwy de o ewin
2 lwy fwrdd o bast Balti
400ml o stoc llysiau
3 llwy fwrdd o goriander wedi'i dorri'n ffres

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

     

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Tostiwch yr almon mewn padell fach, drom, dros wres canolig, tan eu bod yn euraidd, gan eu symud o gwmpas yn y badell yn aml, fel eu bod yn brownio’n gyfartal ac yna eu rhoi i un ochr.

  3. Cynheswch yr olew mewn sosban fawr a choginio’r winwnsyn dros wres canolig i uchel am 5 munud tan ei fod wedi lliwio.

  4. Trowch y garlleg, y sinsir, sinamon, clof, a phast Balti a’u coginio am 1 munud cyn ychwanegu’r cig oen a’i daflu’n dda i’w orchuddio.

  5. Ychwanegwch y reis, y stoc a’r pys a’u coginio dros wres canolig i uchel tan fod y reis yn boeth a’r stoc wedi’i amsugno ac yna ychwanegu’r coriander drwy ei droi a gwasgaru’r fflochiau almon dros y gymysgedd i weini.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.