Skip page header and navigation

Mae pob un ohonom sy’n treulio unrhyw amser ar Instagram wedi gweld y fideos yn dangos cypyrddau perffaith, trefnus. Ond mae mwy i gegin wedi’i threfnu’n wych na hel hoffwyr ar y cyfryngau cymdeithasol! Ac rydyn ni’n credu nad oes angen ichi brynu unrhyw dybiau storio na dyfeisiau crand, chwaith.



Dyma ein dull o aildrefnu’r gegin er mwyn ichi allu mwynhau coginio, meddwl ymlaen llaw, a defnyddio’r holl fwyd sydd gennych chi.

Dyma fydd ei angen arnoch

Cyn ichi ddechrau ar y gwaith o gael trefn ar eich cegin, mae ambell beth ichi gael gafael arnynt i’ch helpu ar eich ffordd:

  • Jariau gwydr neu gynwysyddion eraill i’w hailddefnyddio – mae cegin drefnus a diwastraff yn golygu mwy na pheidio taflu bwyd – mae’n golygu peidio taflu’r deunyddiau pacio hefyd. Un ffordd o leihau faint o ddeunydd pacio bwyd mae eich aelwyd yn ei ddefnyddio yw manteisio i’r eithaf ar gynwysyddion y gellir eu hail-lenwi. Y newyddion da yw bod nifer gynyddol o leoedd y gallwch fynd i ail-lenwi eich cynwysyddion gyda hanfodion fel pasta, reis a blawd. Gallech fuddsoddi mewn jariau storio gwydr, a hefyd ailddefnyddio hen becynnau dal bwyd, fel jariau perlysiau neu jam.
  • Gorchuddion platiau a phowlenni i’w hailddefnyddio - bydd y rhain yn eich helpu i storio bwyd dros ben. Mae deunydd lapio cwyr gwenyn yn ddewis amgen gwych i haenen lynu neu ffoil, hefyd.
  • Labeli neu bin ysgrifennu inc parhaol  - does yr un cartref gwirioneddol drefnus yn gyflawn heb wneud yn siŵr fod popeth wedi’i labelu, yn y cypyrddau yn ogystal â’r oergell a’r rhewgell. Fel arall, gallech ysgrifennu ar y cynhwysydd i’ch atgoffa’ch hun.
  • Cynllunio prydau bwyd - bydd gwneud cynlluniau syml ar gyfer prydau bwyd yn eich helpu i brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch, gan osgoi llenwi eich cegin gyda bwydydd na fyddwch yn eu defnyddio.

Cam 1: Cynnal archwiliad o’r hyn sydd gennych

Nawr eich bod wedi sortio’r cypyrddau, gallwch edrych ar beth sydd gennych ar ôl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble i storio beth – bydd ein tudalen chwilio bwydydd a rysetiau yn help i chi – ac yna rhannwch bopeth sydd dros ben yn bentyrrau i’w cadw yn yr oergell, y rhewgell a’r cwpwrdd bwyd. 



Tra byddwch chi wrthi, gwnewch nodyn o beth sydd angen ei ddefnyddio’n gyntaf, a defnyddiwch y bwydydd hyn fel man dechrau ar gyfer cynllunio eich prydau bwyd nesaf. Os oes’na unrhyw beth yn yr oergell na fyddwch yn ei ddefnyddio cyn iddo fynd heibio ei ddyddiad, rhowch ef ar y pentwr i fynd i’r rhewgell.



Os gwnaethoch chi ddarganfod bod eich cypyrddau’n llawn cynhwysion amrywiol ar gyfer rysetiau yr oeddech wedi rhoi cynnig arnynt unwaith ond heb ddefnyddio gweddill y cynhwysion, tybed a oes ffordd o’u defnyddio mewn rysetiau’r ydych chi’n eu coginio’n amlach? Er enghraifft, efallai bod y sbeisys a brynoch i wneud saig Indiaidd arbennig yn addas i’w defnyddio yn saws eich hoff gyri, a’r pecyn o siwgr brown golau hwnnw a brynoch i wneud math arbennig o fisgedi yn gweithio llawn cystal â siwgr gwyn yn eich hoff deisennau. 

Cam 2: Rhoi trefn ar eich rhewgell

Gan ddechrau gyda’r rhewgell:

  • Rhannwch a labelwch y droriau yn ôl categorïau bwydydd gwahanol – fel bara/nwyddau pob, ffrwythau a llysiau, cig a chynnyrch llaeth.
  • Yn eich ardal ffrwythau a llysiau, beth am gael bag neu gynhwysydd i gadw tameidiau neu grwyn llysiau, i’w defnyddio i wneud stoc llysiau rywdro arall.
  • Cyfunwch ffrwythau rhydd a’u cadw’n fdognau unigol y gallwch eu rhoi’n syth mewn smwddis neu bwdinau.
  • Rhewch fwyd yn ddognau unigol neu ddognau llai, er mwyn gallu eu tynnu allan yn ôl faint byddwch ei angen bob tro.
  • Yn eich drôr nwyddau pob, cadwch gynhwysydd i storio briwsion bara’n gyfleus yn barod i’w ddefnyddio mewn rysetiau fel bysedd pysgod neu stwffin.
  • Labelwch bopeth gyda’i gynnwys a’i ddyddiad rhewi.

Cam 3: Rhoi trefn ar eich oergell

Nesaf, trowch eich sylw at eich oergell:

  • Storiwch gig, dofednod, pysgod a chregynbysgod amrwd ar y silff waelod, gan wneud yn siŵr ei fod wedi’i orchuddio a’i gadw ar wahân i fwyd sy’n barod i’w fwyta, a gellir storio cynnyrch llaeth ar silffoedd uwch ei ben – peidiwch â chadw cynnyrch llaeth yn nrws yr oergell.
  • Rhowch gaws mewn cynhwysydd aerdyn i’w rwystro rhag sychu; y silff uchaf neu’r silffoedd canol yw’r gorau ar gyfer cynnyrch llaeth.
  • Symudwch bethau sydd angen eu defnyddio’n gyntaf i flaen yr oergell, neu gallech neilltuo silff ‘defnyddio’r rhain yn gyntaf’ yn eich oergell.
  • Defnyddiwch gynwysyddion gyda labeli i gadw pethau fel bwyd dros ben yn ffres a chadw cofnod o ba bryd y gwnaethoch ei goginio. Dylid cadw bwyd dros ben yn yr oergell a’i fwyta o fewn deuddydd.

Cam 4: Rhoi trefn ar eich cwpwrdd bwyd

Gellir nawr rhoi trefn ar unrhyw beth nad yw’n byw yn yr oergell neu’r rhewgell yn eich cypyrddau bwyd. Gwnewch hyn yn rhesymegol, gyda chwpwrdd ar gyfer cawl tun, un arall ar gyfer te a choffi, ac yn y blaen, a rhowch yr eitemau mwyaf newydd yn y cefn, fel bod yr hen rai’n cael eu defnyddio gyntaf.



Y jariau gwydr (neu gynwysyddion i’w hail-lenwi) yw eich arf gorau wrth fynd ati i gadw trefn ar eitemau rhydd yn y cwpwrdd bwyd. Gall y rhain hefyd eich helpu i weld yn glir beth sydd gennych cyn mynd i siopa, a chadw cylchrediad rheolaidd er mwyn eu defnyddio i gyd. Gallech hyd yn oed roi cynnig ar opsiynau ail-lenwi mewn siopau – gan fynd â’ch cynwysyddion eich hunan gyda chi a’u llenwi â chynhwysion hollbwysig fel pasta, reis neu flawd, a phrynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch.

Os ydych chi’n storio bwyd yn eich cynwysyddion eich hunan, gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u labelu (neu byddwch yn methu dweud pa un yw’r blawd plaen a pha un yw’r blawd codi!). A does dim rhaid ichi brynu jariau gwydr newydd – gallwch ddefnyddio bob math o gynwysyddion eraill y gellir eu hailddefnyddio sydd gennych o amgylch y tŷ, fel tybiau tecawê, tybiau hufen iâ neu fenyn, hen jariau jam ac ati. 

Cam 5: Creu llecyn ailgylchu

Crëwch le yn eich cartref ar gyfer llecyn ailgylchu, gyda gwahanol finiau neu adrannau ar gyfer gwahanol fathau o sbwriel, fel un ar gyfer cardbord, un ar gyfer gwydr, un arall ar gyfer compostio ac ati. Ewch draw i wefan Ailgylchu Nawr am ysbrydoliaeth, a phwy a ŵyr – efallai y byddwch yn cael mwy o foddhad a hwyl wrth ailgylchu pan fydd pethau mor drefnus â hyn gennych! Rhowch gynnig arni!

Rhannu’r post blog hwn