Cynllunio prydau bwyd i un
Mae manteision cadarn yn perthyn i goginio i un – yr un pennaf yw nad oes rhaid ichi ystyried gofynion neu ddewisiadau bwyd rhywun arall!
Ond, mae anfanteision hefyd. Hawdd fyddai meddwl bod coginio dim ond i chi’ch hunan yn rhatach na choginio i ddau o bobl neu fwy, ond nid felly mae hi bob amser! Wrth gwrs, mae angen symiau llai o fwyd ar gyfer bob pryd, ond yn aml caiff bwyd ei werthu mewn symiau sy’n gweini niferoedd mawr o bobl, a golyga hyn eich bod yn gorfod gwario’r un faint i brynu cynhwysion. Mae’n anoddach defnyddio’r cwbl cyn iddo fynd yn hen, hefyd. Yn y blog hwn, byddwn yn edrych ar sut gallwch fwyta diet amrywiol a maethlon sy’n arbed bwyd ac ymdrech pan fyddwch yn coginio i un.
Cynllunio prydau bwyd yr wythnos ymlaen llaw
Mae cynllunio prydau bwyd yr un mor bwysig pan fyddwch yn coginio i un ag y mae pan fo llond tŷ o foliau i’w llenwi. Y ffordd orau o arbed arian a bwyd yw cynllunio eich prydau bwyd ymlaen llaw, gan seilio eich cynllun prydau ar yr hyn sydd gennych yn eich oergell, rhewgell a chypyrddau eisoes. Cofiwch ystyried amser cinio, hefyd, gan fod modd manteisio ar fwyd dros ben ar ôl swper i ddisodli’r brechdanau drud hynny o’r siop. Byddwn yn sôn mwy am hynny yn y man! Gyda llaw, does dim angen ichi gynllunio prydau ar gyfer bob diwrnod o’r wythnos – caniatewch gwpl o nosweithiau i ffwrdd ar gyfer bwyta allan, tecawê, neu rywbeth o’r rhewgell. Fe wnaiff hyd yn oed gwneud cynllun prydau bwyd ar gyfer pum diwrnod allan o saith wahaniaeth mawr.
Lluniwch restr siopa
Gyda’ch cynllun prydau wrth law, gallwch wedyn wneud rhestr siopa ar gyfer unrhyw gynhwysion ychwanegol y mae eu hangen arnoch. Bydd hyn yn eich atal rhag prynu gormod – neu ddim digon – a byddwch yn dod adref o’r siop gyda dim ond yr hyn y byddwch yn sicr o’i ddefnyddio. Mae prynu ffrwythau a llysiau rhydd yn ffordd wych o sicrhau nad ydych yn hel gormod o gynnyrch ffres a fydd yn anodd ei fwyta i gyd.
Torri rysetiau i’r maint iawn
Pam mae’n teimlo bod rysetiau bob amser yn gweini dau neu bedwar o bobl – a byth un person? Mae’r un fath gyda bocsys rysetiau sy’n danfon yr holl gynhwysion i chi gael gwneud eich dewis o rysáit; y lleiafswm archebu fel arfer yw ar gyfer dau berson. I wneud dognau unigol, gallwch ddefnyddio ein cynllunydd dognau, neu rannu symiau’r cynhwysion yn eu hanner neu yn chwarteri. Yn aml, byddant yn cymryd yr un faint o amser i’w coginio, ond daliwch ati i wirio a gosod amserydd ar gyfer ychydig funudau’n gynt na’r amser a argymhellir yn y rysáit rhag ofn iddo fod wedi coginio’n gyflymach na fuasai wedi’i gymryd i’r dognau mwy.
Coginio swmpus – coginio campus
Dewis arall ar gyfer rysetiau yn hytrach na’u haneru ac ati yw gwneud yr holl ddognau mae’r rysáit yn eu disgrifio, a mwynhau’r bwyd dros ben. Mae gwneud prydau mewn swp yn talu amdano’i hun wrth gymharu amser ac ymdrech fesul dogn, mae’n llawer mwy effeithlon o ran amser a chost na gwneud pob pryd fel un dogn. Mae’n ffordd wych hefyd o ddefnyddio pob tamaid o bob cynhwysyn, yn hytrach na gadael hanner brocoli neu un traean o garton hufen, a fydd yn anoddach eu defnyddio dro arall. Fel y gwnaethom sôn yn ein herthygl ar fwyd dros ben i’r pecyn bwyd, mae’n gwneud llawer o synnwyr gwneud digon o fwyd i ddau neu fwy o bobl ac yna cadw’r ail ddogn i’w gael i ginio. Gallwch hefyd fynd â’r syniad hwn ymhellach a gwneud digon o ddognau ychwanegol ar gyfer nifer o brydau bwyd i’w mwynhau rywdro eto. Mae seigiau sy’n gweithio’n dda ar gyfer coginio mewn swp yn cynnwys:
- Seigiau pasta – o sbageti Bolognese i garbonara hufennog, mae’n hawdd iawn coginio symiau mwy o basta heb unrhyw ymdrech ychwanegol. Fel arall (yn enwedig os yw lle yn dynn yn eich rhewgell), gallwch wneud sypiau mawr o’r saws pasta a’i rewi fesul dogn i’w aildwymo pan fydd awydd pasta i swper arnoch.
- Lasagne – mae gwneud lasagne’n galw am gryn dipyn o ymdrech, ond gallwch wneud un ddysgl fawr ohono a’i dorri’n ddognau i’w cael fel swper syml a hawdd rywdro eto.
- Pastai tatws stwnsh a chig eidion neu gig oen – mae’r rhain hefyd yn rhewi’n dda ar ôl cael eu torri fesul dogn.
- Chilli con carne neu tsili llysieuol – gwnewch swp mawr ohono a’i rewi fesul dogn, wedyn gallwch eu haildwymo a’u gweini gyda reis neu daten drwy’i chroen.
- Cyri – fel yr uchod!
- Porc brau – rhowch ysbawd rad o borc yn y crochan araf (neu gallech ei goginio yn y ffwrn ar wres isel am ychydig oriau) a’i drawsnewid yn borc barbeciw brau. Gallwch ei rewi’n ddognau unigol a’i fwynhau mewn rhôl fara gyda salad, neu ar daten drwy’i chroen.
- Fajitas cyw iâr neu lysiau – peidiwch â gadael i’r cit fajitas sy’n ‘gweini 4’ eich digalonni – coginiwch y cwbl, ac yna lapio faint bynnag sydd dros ben mewn ffoil yn barod i wneud cinio hawdd. Maen nhw’n rhewi’n dda hefyd – hufen sur, caws, gwacamole a phopeth!
- Cawl – dyma ffordd ddelfrydol o ddefnyddio llysiau dros ben, mae cawl yn berffaith ar gyfer coginio mewn swp, a gallwch ei rewi mewn cynwysyddion aerglos y gellir eu hailddefnyddio.
- Risoto – tybio na allwch rewi reis? Nid felly mae hi! Mae risoto’n rhewi’n dda iawn ac, fel cawl, mae’n ffordd wych o ddefnyddio pa bynnag lysiau sydd gennych yn yr oergell. Gallwch hefyd wneud peli arancini blasus gyda risoto dros ben. Darllenwch ein canllaw ar sut i rewi a dadrewi reis yn ddiogel.
Wrth gwrs, gallwch hefyd chwyddo symiau llai o fwyd dros ben gyda chynhwysion ychwanegol ar yr ail ddiwrnod, fel gweini cyw iâr rhost dros ben gyda thaten drwy’i chroen a salad.
Manteisio i’r eithaf ar y rhewgell
Fel rydych chi wedi sylwi bellach, does dim rhaid ichi fwyta’r un peth un noson ar ôl y llall i ddefnyddio’ch holl fwyd a gafodd ei goginio mewn swp ar unwaith. Mae eich rhewgell yn ffrind ffyddlon ichi, yn golygu y gallwch rewi ail, trydydd, neu hyd yn oed bedwerydd dogn o fwyd ar gyfer diwrnod arall. Mae hyn yn rhoi llond rhewgell o ‘brydau parod’ cartref ichi. Mae hyn nid yn unig yn ffordd wych o arbed bwyd ac arian, mae’n beth braf iawn hefyd ar ddyddiau prysur pan nad oes awydd coginio arnoch.
Y ffordd hawsaf o rewi bwyd yw mewn unrhyw gynhwysydd aerglos y gellir ei ailddefnyddio – gallwch ei olchi a’i ailddefnyddio dro ar ôl tro. Cyn ichi roi eich bwyd dros ben yn y rhewgell, gwnewch nodyn o gynnwys y twb ar y caead, gan gynnwys y dyddiad, ac yna defnyddiwch ef o fewn tri mis. Dylech ei ddadrewi’n drylwyr ac yna ei roi yn y microdon pan fyddwch yn barod i’w fwyta – gwnewch yn siŵr ei fod yn chwilboeth cyn ei fwynhau!
Hanfodion y cwpwrdd bwyd
P’un ai coginio pryd unigryw i chi’ch hun ydych chi, yn defnyddio bwydydd ffres dros ben, neu’n coginio swp o fwyd – cynhwysion cwpwrdd y gegin yw eich ffrindiau gorau! Os gwnewch chi ychwanegu tun o domatos, ffa neu gorbys, ciwbiau stoc ac ychydig o berlysiau a sbeisys sych yma ac acw i’ch siopa bwyd, cyn hir byddwch yn gallu creu caserol, cyri, cawl a chreadigaethau eraill. Mae’r eitemau hyn yn para’n hir ar y silff hefyd, felly bydd gennych ddigon o amser i’w defnyddio.
Rhannu’r baich
Coginio i chi’ch hun ond yn rhannu tŷ? Efallai ei bod yn werth ichi drafod bwyd gyda’ch cyd-breswylwyr. Tybed fyddai ganddyn nhw ddiddordeb rhannu cost eitemau a brynir mewn swp (bagiau pasta neu reis, efallai), a hyd yn oed pawb gymryd ei dro i goginio pryd bwyd i’w rannu o bryd i’w gilydd? Gallech oll arbed arian ar eich siopa bwyd, ond hefyd, gallech fwynhau ambell i bryd bwyd cartref, rhad, gyda llai o ymdrech.
Os dilynwch y tips rydyn ni wedi’u rhannu heddiw, fe welwch y byddwch yn gallu mynd wythnosau cyfan heb orfod codi bys yn y gegin – a byddwch yn arbed llawer iawn o fwyd hefyd!
Ewch draw i’n banc rysetiau am wledd o syniadau blasus i’ch ysbrydoli.