Coginio i blant: tips ar gyfer arbed bwyd
Ac mae ymchwil i gefnogi’r dystiolaeth anecdotaidd. Mae nifer o astudiaethau wedi awgrymu y gallai plant fod yn dylanwadu ar faint o wastraff bwyd a gaiff ei greu yn y cartref, yn cynnwys prydau bwyd heb eu gorffen, neu brynu mwy na’r hyn sydd ei angen er mwyn cynnig amrywiaeth eang i’r plant, neu goginio mwy nag y mae ei angen yn fwriadol.
Felly, mae unrhyw beth y gallwch ei wneud i ysgafnhau’r baich yn y gegin i’w groesawu, ac os yw’n arbed bwyd hefyd, gorau oll. Dyma tips gwych ar gyfer arbed amser, arian a bwyd pan fyddwch chi’n coginio i blant – a gyda phlant.
Cael y plant i ymuno â chi yn y gegin
On’d yw’n rhyfedd fod plant yn troi eu trwynau ar fwyd y gwnaethoch ei goginio iddyn nhw, ond pan fyddan nhw eu hunain yn paratoi’r bwyd, maen nhw’n siŵr o lyfu’r plât yn lân? Unwaith y byddan nhw wedi golchi’r tatws neu gymysgu’r saws eu hunain, efallai y cewch chi fwy o lwc wrth eu cael i fwyta eu bwyd i gyd – felly peidiwch anghofio mor werthfawr y gall fod ichi gynnwys y plant yn y gwaith o baratoi prydau bwyd pan fo’n bosibl! Mae hyn nid yn unig yn dysgu sgil bywyd gwerthfawr iddyn nhw, mae’n ffordd wych o danio eu brwdfrydedd dros bopeth sy’n ymwneud â bwyd a choginio, a’u helpu i werthfawrogi sut mae eu prydau bwyd yn cyrraedd y bwrdd..
Cynllunio prydau bwyd a rheoli dognau
Neilltuwch ychydig funudau ar ddechrau’r wythnos i gynllunio beth rydych chi’n mynd i’w goginio ar gyfer y nosweithiau i ddod – mae’n arbed ichi orfod meddwl beth i’w wneud pan fyddwch wedi blino ar ddiwedd y dydd a’r plant yn llwglyd! Mae cynllunio prydau bwyd yn ei gwneud hi’n haws sicrhau eich bod yn defnyddio’r hyn sydd gennych eisoes yn yr oergell, y rhewgell a’r cypyrddau, yn ogystal â’ch helpu i weithio allan beth sydd angen ei brynu o’r siop fel nad ydych yn prynu mwy na’r hyn sydd ei angen arnoch. Does dim rhaid iddo fod yn gynllun rhy llym, ond o leiaf bydd gennych syniad bras beth sydd ar y gorwel.
Gall fod yn anodd cyfrifo faint o fwyd sydd ei angen ar bawb, yn enwedig os oes gennych chi blant o wahanol oedrannau a gwahanol chwant am fwyd. Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Dognau defnyddiol i gyfrifo faint o bob cynhwysyn sydd ei angen arnoch ar gyfer pob aelod o’r teulu (mae wedi’i rannu yn ôl ystod oedran ar gyfer plant) – bydd hyn yn eich helpu i brynu a choginio’r symiau cywir o fwyd, gan arbed arian a’i gwneud hi’n haws osgoi gwastraffu bwyd.
Ffordd arall o gadw trefn ar feintiau dognau yw prynu bwyd wedi’i rewi. Mae hyn yn caniatáu ichi estyn dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch – fel yr union faint o bys o fag mwy, neu ychydig o fysedd pysgod – a chadw’r gweddill yn y rhewgell ar gyfer rhywdro eto.
O ran amser bwyd, fel rheol mae’n well gweini dognau bach, gan ganiatáu iddyn nhw gael rhagor o fwyd os ydyn nhw’n gofyn am ychwaneg. Mae rhoi’r cyfle i blant helpu eu hunain o ddysgl weini ganolog fel eu bod ond yn cymryd yr hyn sydd ei angen arnynt hefyd yn helpu i gadael bwyd ar blatiau, ac yn ei gwneud hi’n haws defnyddio unrhyw fwyd dros ben rywdro eto.
Coginio fesul swp
Nesaf, rydyn ni’n trafod dull hynod ddefnyddiol i rieni prysur: coginio fesul swp. Mae coginio fesul swp yn ffordd wych o gadw ar y blaen, gan eich galluogi i fwynhau ambell noson ddi-straen pan mai’r cwbl fydd angen ichi ei wneud yw aildwymo rhywbeth rydych wedi’i goginio eisoes.
Y peth gorau yw mai ychydig bach o ymdrech ychwanegol mae’n ei gymryd i wneud swp mwy o fwydydd rydych chi’n eu coginio beth bynnag – dim ond lluosi’r symiau fel bod dognau ychwanegol gennych i’w rhewi ar gyfer rywdro eto. Mae llawer o seigiau y mae plant yn eu mwynhau yn ddewisiadau gwych ar gyfer coginio fesul swp, fel pasta (neu dim ond saws pasta), stiw neu gaserol, tsili con carne heb fod yn rhy sbeislyd, a risoto.
Hoffi eich bwyd dros ben
Os nad ydyn nhw wedi bwyta popeth rydych chi wedi’i baratoi, cadwch y bwyd dros ben a’u defnyddio i ysgafnhau’r baich rywdro eto. P’un a ydych chi’n ailddefnyddio tatws wedi’u berwi trwy eu ffrio i gyd-fynd â’ch pryd bwyd oedolion, neu’n gweini batonau moron dros ben fel byrbrydau gyda hwmws, mae bob amser rhywbeth blasus y gallwch chi ei wneud gydag unrhyw beth sy’n weddill o bryd o fwyd. Er enghraifft:
- Defnyddio darnau ffrwythau dros ben ar gyfer pobi – fel crempogau, myffins a theisennau bach
- Cymysgu ffrwythau dros ben gydag iogwrt a’u rhewi i wneud lolipops blasus – trît perffaith, a gwych i fabanod sy’n torri dannedd!
- Defnyddio llysiau dros ben mewn prydau eraill – fel omled, myffins sawrus neu wedi’u blendio mewn cawl.
- Stwnshio moron, brocoli neu courgette a gwneud olwynion crwst blasus – dim ond eu cymysgu gyda chaws meddal ac ychwanegu’r cymysgedd ar grwst pwff, wedyn ei rolio a’i dorri cyn ei goginio’n unol â’r cyfarwyddiadau ar y pecyn.
- Gallwch rewi pasta, cig a sawsiau dros ben (neu unrhyw saig arall) mewn dognau unigol wedi’u labelu’n glir – ffordd ddelfrydol o sicrhau bod gennych amrywiaeth o brydau bwyd cartref sydyn, blasus ar gael yn y rhewgell bob amser.
- Gallwch rewi ffrwythau a llysiau dros ben drwy gydol yr wythnos i’w defnyddio mewn smwddis
Yn olaf, gallwch rewi llysiau wedi’u coginio (a chynhwysion eraill) i’w hychwanegu at rysetiau rywdro eto – dyma un o nifer o ddulliau sydyn a hawdd y gallwch eu defnyddio diolch i’r rhewgell ffyddlon! Gallwch ddarllen mwy am fwydydd na wyddoch y gallech eu rhewi i gael mwy o tips i arbed bwyd ac amser.