10 ffordd greadigol o wneud prydau bendigedig gyda manion bethau
Gydag ychydig o greadigrwydd, byddwch yn rhyfeddu at y prydau syml a blasus y gallwch eu creu gyda’r darnau o fwyd sydd dros ben yn eich cegin! Yn ogystal ag arbed bwyd rhag y bin, byddwch yn arbed ambell bunt i chi’ch hunain drwy greu pryd heb orfod prynu unrhyw beth newydd. Dyma rai ffyrdd dyfeisgar o weini pryd bendigedig o’r gweddillion bwyd sydd angen eu defnyddio.
1. Tatws
Y daten ddiymhongar yw’r bwyd sy’n cael ei wastraffu fwyaf yn y Deyrnas Unedig, ond does dim rhaid iddi fod fel hyn! Os ydych chi wedi prynu bag sy’n cynnwys mwy nag yr ydych chi’n gwybod beth i’w wneud â nhw, ac maen nhw bellach yn meddalu yn nrôr eich oergell, peidiwch â phoeni – mae llwythi o ffyrdd blasus o’u defnyddio! Trïwch swper sydyn a hawdd o datws trwy’u crwyn gyda’ch hoff lenwad (ffordd wych o ddefnyddio caws hefyd), sbwyliwch y plant gyda sglodion trwchus llwythog, neu stwnsiwch nhw at ei gilydd gyda chaws ag unrhyw lysiau rydych chi angen eu defnyddio. Os ydych angen eu rhewi i’w defnyddio rhywbryd eto, coginiwch nhw’n gyntaf – dydi tatws amrwd ddim yn rhewi’n dda.
2. Bara
Rydym yn genedl o wastraffwyr bara yma yn y Deyrnas Unedig, gyda neb eisiau bwyta’r crystiau a gwaelod y bagiau’n aml yn mynd yn stel neu’n sych. Mae o i gyd yn holl fwytadwy serch hynny, a gellir ei drawsnewid yn brydau sydyn a hawdd! Mae ein
pitsa bach o grystiau bara yn boblogaidd iawn gyda phlant, a fydd wrth eu boddau’n helpu eu paratoi. Fel arall, gallech wneud eich bara garlleg eich hun, neu ei ddefnyddio i wneud croutons ar gyfer cawl neu friwsion bara i roi ar ben mhac a chaws.
3. Llaeth
P’un ai’r diferion yng ngwaelod y carton neu eich bod wedi gorfod prynu carton mwy nag oeddech chi ei angen gan fod y maint llai wedi gwerthu allan, does dim rheswm i dywallt y llaeth i lawr y sinc! Defnyddiwch ef i wneud cytew crempog neu Bwdinau Efrog neu ei gymysgu gyda thipyn o ffrwythau sydd angen eu defnyddio i greu smwddi sy’n tynnu dŵr o ddannedd. Gallwch hefyd rewi gweddillion llaeth gan ddefnyddio clawr ciwbiau rhew yn barod i’w gollwng i mewn i’ch te neu goffi wedi rhewi!
4. Porc
Un arall o’r bwydydd sydd yn y pump uchaf o ran gwastraff bwyd yw porc, yn aml oherwydd ein bod yn cael ein gorfodi i brynu pecyn mwy gan nad oedd pecynnau llai ar gael. Peidiwch â phoeni – gallwch un ai rewi hanner ohono pan ddewch yn ôl o’r siop, neu gallwch ei ddefnyddio i wneud swp o gyri neu gaserol blasus a rhewi’r dognau ychwanegol i wneud pryd sydyn a hawdd rhywbryd eto. Mae fajitas porc crimp yn ffordd arall o ddefnyddio porc, a gallwch rewi dognau o’r llenwad i’w ychwanegu i fara tortila ffres rhywbryd eto.
5. Cyw Iâr
Yn yr un modd â phorc, mae cyw iâr yn aml yn mynd yn wastraff oherwydd ein bod wedi prynu pecyn gyda gormod o ddognau, efallai am nad oedd pecynnau llai yn y siop. Neu efallai bod gennych rywfaint o gyw iâr yn weddill ers cinio rhost dydd Sul! Pryn bynnag, eto fel porc, mae coginio swp o gyri neu gaserol yn ffordd dda o ddefnyddio cyw iâr sy’n weddill (mae’r cyri’n roi’r teimlad o ‘decawê ffug’ i chi!) a gellir hefyd ei ychwanegu i gawliau, pryd tro-ffrio a brechdanau neu ei rewi. Mae ein pasteiod gyda chinio dydd Sul dros ben hefyd yn ddefnydd da iawn ohono.
6. Ffrwythau
Gellir trawsnewid afalau, gellyg, ffrwythau meddal fel aeron, bricyll ac eirin gwlanog, i mewn i gompot ffrwythau blasus, ceuled neu jam. Mae llwyaid o hwn yn fendigedig ar uwd, grawn brecwast neu grempogau, a gellir ei roi mewn haenau gyda hufen neu hufen ia i wneud pwdin hawdd a syml. Dyma rysáit jam sydyn i chi gael dechrau.
7. Toes
P’un ai eich bod wedi gwneud peth eich hun a bod gennych beth dros ben, neu eich bod wedi prynu rholyn o does wedi’i wneud yn barod nad oeddech ei angen i gyd i’ch rysáit gwreiddiol, pam ddim defnyddio beth sydd ar ôl i wneud tartennau jam blasus? Os oes gennych rywfaint o ffrwythau sy’n dechrau meddalu, mae’n ffordd wych o ddefnyddio’r rheiny hefyd!
8. Ffa pob
Angen defnyddio tin o ffa pob hanner llawn sydd wedi’i agor? Rhowch gynnig ar eu cymysgu gydag wyau am frecwast blasus, neu gyda chaws am agwedd newydd flasus ar ffa pob ar dost.
9. Caws
Does dim angen i gaws byth fynd yn wastraff, gan ei fod yn berffaith i’w gratio ar ben bron iawn bopeth: pitsa, tost, wyau wedi eu sgramblo, pasta – unrhyw beth! Oeddech chi’n gwybod ei bod hefyd yn bosibl ei rewi? Gratiwch ef a bagiwch ef yn barod i’w ddefnyddio rhywbryd eto.
10. Moron
Yn olaf, rydym yn caru’r syniad gwych hwn ar gyfer moron gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff Seland Newydd. Mae eu creision moron wedi stwnshio yn troi’r moron meddal rheiny sydd yng ngwaelod y bocs llysiau yn ddantaith blasus y gallwch ei fwyta gyda’ch hoff dip. Dydi bwyta’n iach erioed wedi blasu cystal!
Gormod o fwyd dros ben?
Mae’n hawdd iawn prynu mwy o fwyd nag yr ydych chi ei angen, ac os oes gennych ch fwyd dros ben yn aml, yna mae ychydig o bethau y gallwch chi eu gwneud:
- Prynwch yn rhydd: os ydych yn prynu llysiau a ffrwythau wedi’u pecynnu’n barod, ceisiwch newid i brynu’n rhydd – bydd hyn yn ei gwneud yn haws i chi brynu’r hyn rydych ei angen yn unig, ac yn arbed arian i chi hefyd!
- Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau i gyfrifo faint rydych chi angen ei brynu.
- Sefydlwch arferion: ychwanegwch gwpl o bethau syml i’ch arferion bwyd wythnosol i’ch helpu i gadw llygad ar eich bwyd gartref a’ch helpu i brynu dim ond yr hyn rydych chi ei angen, megis ysgrifennu rhestr siopa a gosod cyllideb.
- Defnyddiwch y rhewgell: os nad ydych yn gallu bwyta eich bwyd i gyd ar hyn o bryd – p’un a yw’n fwyd yn syth o’r siop neu’n weddillion bwyd wedi’i goginio – yna rhowch ef i rewi nawr gan ddilyn yr arweiniad ar y pecyn neu ei rewi ar ôl i chi ei goginio. Cewch eich synnu cymaint y gallwch chi ei rewi!
Oes gennych chi unrhyw syniadau dyfeisgar am ddefnyddio bwyd dros ben? Rhannwch eich syniadau gyda ni ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol, neu gadewch sylwadau isod! Cewch hyd i lwythi o ysbrydoliaeth am sut i ddefnyddio gwahanol gynhwysion ar ein tudalennau ryseitiau ac arweiniad bwydydd.